Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2022
Amser:
09.01 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12930
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Judith Cole, Llywodraeth Cymru Richard Baker, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Ymchwiliad i asedau cymunedol – sesiwn dystiolaeth 4: Y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Richard Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tir Llywodraeth Cymru
Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:
· rhagor o wybodaeth am yr ymarfer mapio ar draws y Llywodraeth sy'n edrych ar bolisïau a rhaglenni sy'n ymwneud â chymunedau
· copi o'r gwaith ymchwil ar werthoedd cymdeithasol gan Cwmpas
· rhagor o wybodaeth yn ymwneud â defnydd awdurdodau lleol o’r cyllid sydd ar gael i gefnogi cymunedau.
2.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu:
· nodyn ar yr ystod o gronfeydd sydd ar gael ar gyfer asedau cymunedol
· copi electronig o'r ohebiaeth â Cwmpas
· manylion am y cynllun Hunanadeiladu Cymru
· nodyn technegol yn ymwneud â dymchwel adeiladau hanesyddol yng Nghaerdydd.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at bob Cadeirydd Pwyllgor mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
3.2 Cyflwyniad ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig
5 Ymchwiliad i asedau cymunedol – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a materion allweddol
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a’r materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad.
6 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod yr adroddiad drafft
6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
7 Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2022
7.1. Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd i fynd ar drywydd nifer o faterion yn nhymor yr hydref.